2 Tachwedd 2015
Annwyl Weinidog
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17
Hoffwn eich gwahodd i gyfarfod o'r Pwyllgor ddydd Iau 21 Ionawr 2016 i roi tystiolaeth mewn cysylltiad â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.
Disgwylir i'r sesiwn dystiolaeth bara tri chwarter awr, gan ddechrau am 9.00. Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 2 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd. Byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddarparu papur dwyieithog i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft erbyn dydd Mercher 6 Ionawr. Byddai'r Pwyllgor yn arbennig o ddiolchgar o gael gwybodaeth am y materion cyllidebol a amlygir yn yr atodiad i'r llythyr hwn.
Yn gywir
Christine Chapman AC
Cadeirydd
Atodiad
Yn ystod y broses o graffu ar y gyllideb ddrafft yn ystod y blynyddoedd diwethaf, croesawodd y Pwyllgor y gwelliannau a wnaed i gyflwyniad ac eglurder dogfennau cyllideb Llywodraeth Cymru a'r papurau a gyflwynwyd i Bwyllgorau'r Cynulliad gan Weinidogion a Dirprwy Weinidogion.
Yn ogystal, mae'r Pwyllgor eisoes wedi croesawu'r gwelliannau a wnaed i'r broses o asesu effaith y gyllideb ar gydraddoldeb, ac yn benodol y cam o sefydlu Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb a'r ymchwiliad gwerthfawrogol a wnaed gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i'r broses yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb.
Mae'r Pwyllgor yn cydnabod nad oes gan y Gweinidog Cyllid gyfrifoldeb cyffredinol dros gydraddoldeb. Fodd bynnag, cred y Pwyllgor ei bod yn bwysig fod y Gweinidog yn darparu gwybodaeth am sut y mae cydraddoldeb yn cael ei ystyried yn y broses gyffredinol o lunio cyllideb ddrafft.
Yn benodol, hoffai'r Pwyllgor gael gwybodaeth am y materion a ganlyn:
· gwaith Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb a pha ddylanwad y mae wedi'i gael dros benderfyniadau cyllidebol;
· enghreifftiau o sut y defnyddiwyd yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn ystod y broses o gynllunio'r gyllideb;
· y dull integredig o asesu effeithiau'r gyllideb ar gydraddoldeb a chynaliadwyedd;
· y dystiolaeth a ddefnyddiwyd i asesu effaith penderfyniadau cyllidebol ar gydraddoldeb.